Ynglŷn â Home-Start Cymru Support
Mae bod yn rhiant i blant dan 11 oed yn gallu bod yn anodd, ac mae pob un ohonom yn wynebu heriau o bryd i’w gilydd. Mae Home-Start Cymru yn cefnogi teuluoedd i feithrin eu gwytnwch a thros amser gall ddechrau teimlo ychydig yn haws. Mae Home-Start Cymru yma i’ch cefnogi i gymryd y camau cyntaf hynny i fynd i’r afael â’r heriau hyn.
Rydym wedi paratoi’r dogfennau isod i’ch helpu i atgyfeirio rhywun. Cliciwch ar y botymau i lawrlwytho’r ffurflenni y gellir eu dychwelyd atom yn info@homestartcymru.org.uk
Credwn fod angen plentyndod hapus a diogel ar blant a bod rhieni’n chwarae rhan allweddol wrth roi dechrau da mewn bywyd i’w plant – gan eu helpu i gyflawni eu llawn botensial. Mae teuluoedd yn ein gwahodd i’w cartrefi a’u bywydau fel y gallwn ffurfio perthnasoedd fel y gall ein gwirfoddolwyr cymheiriaid a staff arbenigol gynnig cymorth cyfrinachol, tosturiol, anfeirniadol. Mae hyn yn galluogi rhieni i ymgymryd â thaith barhaus o newid sy’n cynyddu eu llesiant eu hunain a llesiant eu teulu.
Sut rydym yn cefnogi teuluoedd
Mae gwirfoddolwyr Home-Start Cymru yn gweithio ochr yn ochr â theuluoedd i roi cymorth tosturiol a chyfrinachol, wedi’i deilwra i bob teulu. Gall ein gwirfoddolwyr gefnogi teuluoedd gydag ymweliadau cartref un-i-un unigol, cefnogaeth ar-lein ac ystod eang o ymyriadau wedi’u targedu ar gyfer rhieni a’u plant.
Rydym yn cefnogi teuluoedd sy’n wynebu heriau fel iselder ôl-enedigol, unigedd, problemau iechyd corfforol, profedigaeth a llawer o faterion eraill. Byddant yn derbyn cefnogaeth gwirfoddolwr a fydd yn treulio tua dwy awr yr wythnos yng nghartref teulu yn eu cefnogi yn y ffyrdd sydd eu hangen arnynt.
Sut alla i gael help?
Rydym yn gweithio’n agos gyda gweithwyr iechyd proffesiynol lleol gan gynnwys Bydwragedd ac Ymwelwyr Iechyd, Meddygon Teulu a Thimau Iechyd Meddwl Cymunedol a Thimau Cymorth Cynnar. Yn ogystal, gall Gweithwyr Cymdeithasol, Gweithwyr Cymorth i Deuluoedd a Chyn-ysgolion/Meithrinfeydd hefyd atgyfeirio teuluoedd atom am gymorth. Gallwch hefyd hunangyfeirio os byddai’n well gennych.
Beth sy’n digwydd ar ôl i mi gael fy nghyfeirio?
Unwaith y byddwch wedi cael eich atgyfeirio, bydd un o’n Cydlynwyr yn ymweld â chi gartref. Byddant yn cymryd amser i sgwrsio â chi fel y gallant ddeall eich anghenion unigol a chytuno ar raglen gymorth. Yn dibynnu ar eich sefyllfa, byddwn wedyn yn eich paru’n ofalus â gwirfoddolwr hyfforddedig a fydd yn ymweld â chi gartref am 2-3 awr yr wythnos. Fel arall, efallai y cewch eich cyflwyno i un o’n grwpiau teulu lle byddwch yn gallu cyfarfod â rhieni eraill, dysgu sgiliau newydd a magu hyder.
Beth os bydd angen cymorth brys arnaf?
Rydym yn cydnabod y bydd adegau pan fydd angen i deuluoedd siarad â rhywun ar frys. Fodd bynnag, nid yw Home-Start Cymru yn darparu cymorth brys. Mae nifer o elusennau a all gynnig cymorth ar unwaith mewn gwahanol ffyrdd.
Ein Gwasanaethau
Rydym yn darparu ystod o wasanaethau i helpu a chefnogi teuluoedd ar draws y mwyafrif o awdurdodau lleol yng Nghymru.