Ynghylch Gwirfoddoli gyda Home-Start Cymru

Mae gwirfoddoli yn ffordd gadarnhaol o gefnogi Home-Start Cymru a theuluoedd mewn angen. Brwdfrydedd ac awydd i helpu yw’r unig gymwysterau sydd eu hangen arnoch.

Drwy wirfoddoli i Home-Start Cymru, gan rannu eich gwybodaeth a’ch profiad, gallwch drawsnewid bywydau plant ifanc a’u rhieni yn eich cymuned.

Fel gwirfoddolwr, byddwch yn cefnogi teuluoedd gydag ymweliadau cartref un-i-un unigol neu o bell, trwy gyswllt wythnosol ac ystod eang o gefnogaeth wedi’i thargedu i rieni a’u plant.

Dewch yn Wirfoddolwr Home-Start

Helpu i roi’r dechrau gorau posibl mewn bywyd i blant, oherwydd ni all plentyndod aros. Mae Home-Start Cymru yn cefnogi rhieni wrth iddynt fagu hyder, cryfhau perthnasoedd gyda’u plant ac ehangu cysylltiadau â’r gymuned leol. Rydym yn cynnig cefnogaeth, cyfeillgarwch a chymorth ymarferol i rieni â phlant ifanc yn y gymuned leol.

Trwy rannu eu hamser a’u cyfeillgarwch, mae gwirfoddolwyr yn cynnig cyfleoedd i deuluoedd ddatblygu perthnasoedd newydd, syniadau newydd, a sgiliau a galluoedd gwell. Gall teuluoedd ennill yr hyder i fanteisio ar adnoddau eraill yn y gymuned.

Mae gwaith y gwirfoddolwr yn gofyn am lefel uchel o ymrwymiad a dibynadwyedd, bydd gwirfoddolwyr yn cael eu cefnogi’n rheolaidd gan Home-Start Cymru.

Rwyf wrth fy modd yn gwirfoddoli. Rwyf yn mwynhau cynnig help a braf iawn ydy gwneud rhywbeth i helpu rywun arall. Hyd yn oed helpu gyda thacluso, neu sgwrs a phaned.

Claire Roberts - Sir Gaerfyrddin

Roeddwn eisiau bod yn wirfoddolwr i Home-Start er mwyn cael profiad o weithio gyda theuluoedd .

Ellie - Caerffili.

Dwi'n mwynhau llawer o bethau wrth fod yn Wirfoddolwr Home-Start Cymru, a'n rheolwr ydy un ohonynt.

Paula - Caerdydd

Dylai gwirfoddolwr Home-Start Cymru:

  • bod yn rhiant neu fod â phrofiad magu plant
  • gael agwedd gadarnhaol at weithio gyda phobl o unrhyw ryw, statws teuluol neu hunaniaeth rywiol, neu sydd o unrhyw darddiad ethnig, diwylliant neu grefydd, neu a all fod ag anabledd
  • dangos agwedd sensitif a gofalgar tuag at eraill
  • bod yn glir ynghylch cyfrinachedd
  • bod yn ddibynadwy a deall pwysigrwydd dibynadwyedd i’r teulu
  • meddu ar sgiliau cyfathrebu da gan gynnwys y gallu i wrando
  • meddu ar bersonoliaeth gynnes ac agored a synnwyr digrifwch
  • gallu gweithio fel aelod o dîm
  • ymrwymo i ymweld neu ffonio aelod o’r teulu bob wythnos ar amser y cytunir arno
  • bod yn barod i gadw cofnodion yn unol â chais y cynllun.

Oes gennych chi gwestiwn?

I drafod rolau a chyfleoedd gwirfoddoli gyda ni, neu am ragor o wybodaeth, cysylltwch â’r Tîm Recriwtio a Datblygu Gwirfoddolwyr – volunteering@homestartcymru.org.uk

Dysgu mwy

Rydym yn ateb cwestiynau cyffredin a allai fod gennych am wirfoddoli gyda Home-Start Cymru.