Pweru Cymunedau: Rôl Allweddol Gwirfoddolwyr yn y Broses o Adeiladu Dyfodol Gwell

Wrth galon pob cymuned ffyniannus y mae pobl sydd wirioneddol eisiau helpu – yma yn Home-Start Cymru, ein gwirfoddolwyr yw’r grym sy’n gweithredu newid cadarnhaol bob dydd. Mae’r unigolion ymroddgar hyn yn rhoi o’u hamser i gefnogi teuluoedd ar draws Cymru sy’n wynebu heriau teuluol, iechyd meddwl a chaledi ariannol.

Fel un o’r prif elusennau sy’n cynnig cefnogaeth i deuluoedd yng Nghymru, mae Home-Start Cymru yn gweithio gyda theuluoedd i sicrhau bod pob plentyn yn derbyn y dechreuad gorau. Mae ein gwirfoddolwyr hyfforddedig yn darparu ymweliadau â’r cartref er mwyn cynnig cefnogaeth, cyfeillgarwch, arweiniad emosiynol a chymorth ymarferol sy’n grymuso rhieni i symud ymlaen yn hyderus.

Mae gwirfoddoli yn fwy na dim ond rhoi’n ôl i’r gymuned, mae’n ymwneud ag adeiladu cymunedau cryfach, gwydn.

Sut mae gwirfoddoli gyda Home-Start Cymru yn helpu cymunedau:

  • Lleihau arwahaniad cymdeithasol i rieni ac i blant
  • Cryfhau rhwydweithiau cefnogaeth leol
  • Adeiladu hyder a chynnig sgiliau bywyd i deuluoedd ac i wirfoddolwyr
  • Gwella lles emosiynol ac iechyd meddwl
  • Annog dinasyddiaeth weithredol ac ymwneud gydol oes â’r gymuned 
  • Annog caredigrwydd a chyswllt rhwng cymunedau

Boed eich bod am wirfoddoli yng Nghymru er mwyn rhoi’n ôl i’r gymuned, i ddysgu sgiliau newydd, neu i gyfarfod pobl debyg ichi, mae Home-Start Cymru yn cynnig cyfleoedd gwirfoddoli yn y gymuned sydd wir yn gwneud gwahaniaeth.

Ymunwch â ni heddiw

Rydym ni’n cynnig hyfforddiant llawn a chymorth parhaus – does dim angen profiad proffesiynol na phrofiad o fod yn rhiant, dim ond calon fawr ac ychydig oriau o waith yr wythnos.

Ewch i 👉 https://www.homestartcymru.org.uk/cy/get-involved-cymraeg/volunteer-with-usi ddechrau’ch siwrne. Byddwch y rheswm y gall teulu ddarganfod gobaith a chryfder

ResponsivePics errors
  • image id is undefined