Izzabella James
Ymunodd Izzie â’r sefydliad yn 2021 fel Swyddog Polisi a Materion Cyhoeddus Home-Start Cymru. Mae Izzie yn arwain ar waith polisi a dylanwadu ar gyfer y sefydliad, gan ddod o hyd i fannau allweddol i leisiau teuluoedd gael eu hamlygu a datblygu dulliau ar gyfer newid cadarnhaol yn y sector. Mae gan Izzie brofiad mewn nifer o sectorau, gan gynnwys addysg a’r diwydiant gwasanaeth. Mae hi hefyd yn angerddol am gydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant ac mae wedi arwain sawl prosiect yn ei hamser rhydd i herio anghydraddoldeb systematig.
Gallwch ddod o hyd i Izzie ar LinkedIn.