Manteision Gwirfoddoli gyda Home-Start Cymru fel Myfyriwr
Mae gwirfoddoli gyda Home-Start Cymru fel myfyriwr yn gyfle arbennig i wneud gwahaniaeth pwysig i deuluoedd wrth ddatblygu sgiliau gwerthfawr a fydd yn eich paratoi at y dyfodol. Boed eich bod yn astudio gwaith cymdeithasol, seicoleg neu addysg, neu dim ond eisiau cynnig rhywbeth yn ôl i’ch cymuned, mae gwirfoddoli gyda Home-Start Cymru yn cynnig profiad gwobrwyol a fydd o fudd i chi a’r teuluoedd yr ydych yn eu cefnogi.
Pa gyfleoedd sydd ar gael?
Mae Home-Start Cymru yn darparu ystod o gyfleoedd gwirfoddoli sy’n addas i fyfyrwyr. Mae’r rhain yn cynnwys:
- Gwirfoddolwr Cefnogi Teuluoedd – gweithio’n agos gyda theuluoedd i gynnig cefnogaeth emosiynol ac ymarferol.
- Gwirfoddolwr Cefnogaeth grŵp – Cynorthwyo mewn sesiynau i rieni neu grwpiau chwarae lleol, helpu teuluoedd i gysylltu ag eraill a chael mynediad at wahanol adnoddau.
- Cefnogaeth Weinyddol – helpu gyda thasgau swyddfa, digwyddiadau codi arian neu waith marchnata er mwyn cynnal gweithrediad llyfn yr elusen.
- Gwirfoddoli mewn Digwyddiadau – ymwneud gyda digwyddiadau achlysurol fel ymgyrchoedd i godi ymwybyddiaeth, gweithgareddau i godi arian a gwaith yn y gymuned.
Sut all gwirfoddoli fod o fudd i chi?
Gall gwirfoddoli gyda Home-Start Cymru fel myfyriwr ddarparu sawl mantais, gan gynnwys:
- Datblygu sgiliau allweddol – ehangu’r sgil o gyfathrebu, gweithio fel rhan o dîm a datrys problemau, sy’n hanfodol mewn unrhyw yrfa.
- Ennyn profiad ymarferol – os ydych chi am ddilyn gyrfa ym maes gwaith cymdeithasol, seicoleg neu addysg, mae gwirfoddoli yn darparu profiad ymarferol gwerthfawr.
- Ehangu’ch CV – mae cyflogwyr yn gwerthfawrogi profiad gwirfoddol, sy’n dangos eich ymrwymiad, empathi a’ch gallu i weithio mewn gwahanol amgylcheddau.
- Adeiladu Hyder – mae cefnogi teuluoedd trwy gyfnodau heriol yn eich helpu i ddatblygu hyder yn eich gallu a’r sgil o wneud penderfyniadau.
- Gwneud Gwahaniaeth – yr elfen fwyaf gwobrwyol yw gwybod eich bod yn helpu teuluoedd i oresgyn cyfnodau heriol a’n cael effaith gadarnhaol ar eich cymuned.
Ymunwch â ni heddiw!
Os ydych yn edrych am gyfle i wirfoddoli wrth ennyn profiad gwerthfawr, Home-Start Cymru yw’r man delfrydol ichi ddechrau arni. Boed eich bod yn medru cytuno i ychydig oriau o waith gwirfoddol yr wythnos neu’n medru cynorthwyo mewn digwyddiadau, bydd eich cyfraniad yn gwneud gwahaniaeth enfawr.
Ewch i’r ddolen hon: https://www.homestartcymru.org.uk/cy/get-involved-cymraeg/volunteer-with-us/ i ddysgu mwy ac i gymryd y cam cyntaf tuag at ennyn profiad gwirfoddol gwerthfawr!
ResponsivePics errors
- image id is undefined