Mae Home-Start Cymru yn deall ei fod yn gallu bod yn gyfnod heriol pan fo’ch plentyn ar y llwybr Datblygu Niwro. Gall ein staff ymroddedig eich cefnogi i ddelio gyda rhai o’r heriau trwy gynnig cefnogaeth 1-1 i chi a’ch teulu.
Ein nod yw:
• cefnogi rhieni/gofalwyr i ddeall eu hanghenion, ac anghenion DN eu plant
• darparu gwybodaeth, adnoddau ac offer ymarferol i gefnogi’r teulu
• darparu cyfleoedd i wella lles emosiynol drwy gael cefnogaeth gan gymheiriaid/rhieni sydd wedi cael yr un profiad
Mae ein cefnogaeth wedi ei deilwra ar gyfer eich anghenion chi, ac fe gydweithiwn gyda’n gilydd i gefnogi’r hyn sy’n bwysig i chi a’ch teulu.
Os hoffech wybod mwy am y gefnogaeth sydd ar gael i’ch teulu, cysylltwch â ni ar
07831 716288 neu anfon e-bost atom ar ndsupport@homestartcymru.org.uk