Mae datblygiad iaith cynnar yn elfen sylfaenol o’r gefnogaeth a gynigir i deuluoedd. Mae’n cefnogi gallu plant i gyfathrebu ag eraill a deall y byd o’u cwmpas.
Mae Home-Start Cymru yn cyflwyno sesiynau unigol ar gyfer teuluoedd a atgyfeiriwyd, gan ddefnyddio technegau chwarae syml i gefnogi rhieni i ymgysylltu â’u plentyn mewn amgylchedd naturiol ac ysgogol. Rydym yn galluogi rhieni i ddeall y ffyrdd syml o wella cyfathrebu, adeiladu geirfa plentyn ac annog chwilfrydedd.
Gall staff a gwirfoddolwyr ddarparu sesiynau, ond trwy gynnig yng nghartref y teulu, mae’n caniatáu i’r rhiant a’r plentyn ymlacio mwy.