Gwirfoddolwch gyda Ni
Mae gwirfoddoli yn ffordd wych o ddefnyddio’ch sgiliau a chwrdd â phobl newydd, tra’n gwneud gwahaniaeth i deuluoedd
Ein gwirfoddolwyr Home-Start Cymru yw asgwrn cefn ein holl brosiectau. Mae ein gwirfoddolwyr yn darparu cwmnïaeth, clust i wrando, yn cynnig tosturi a chefnogaeth i deuluoedd. Nid oes rhaid i chi gael eich plentyn eich hun i gymryd rhan, yn syml, mae’n rhaid i chi ofalu.
Ynghylch Gwirfoddoli gyda Home-Start Cymru
Mae gwirfoddoli yn ffordd gadarnhaol o gefnogi Home-Start Cymru a theuluoedd mewn angen. Brwdfrydedd ac awydd i helpu yw’r unig gymwysterau sydd eu hangen arnoch.
Drwy wirfoddoli i Home-Start Cymru, gan rannu eich gwybodaeth a’ch profiad, gallwch drawsnewid bywydau plant ifanc a’u rhieni yn eich cymuned.
Fel gwirfoddolwr, byddwch yn cefnogi teuluoedd gydag ymweliadau cartref un-i-un unigol neu o bell, trwy gyswllt wythnosol ac ystod eang o gefnogaeth wedi’i thargedu i rieni a’u plant.
Dewch yn Wirfoddolwr Home-Start
Helpu i roi’r dechrau gorau posibl mewn bywyd i blant, oherwydd ni all plentyndod aros. Mae Home-Start Cymru yn cefnogi rhieni wrth iddynt fagu hyder, cryfhau perthnasoedd gyda’u plant ac ehangu cysylltiadau â’r gymuned leol. Rydym yn cynnig cefnogaeth, cyfeillgarwch a chymorth ymarferol i rieni â phlant ifanc yn y gymuned leol.
Trwy rannu eu hamser a’u cyfeillgarwch, mae gwirfoddolwyr yn cynnig cyfleoedd i deuluoedd ddatblygu perthnasoedd newydd, syniadau newydd, a sgiliau a galluoedd gwell. Gall teuluoedd ennill yr hyder i fanteisio ar adnoddau eraill yn y gymuned.
Mae gwaith y gwirfoddolwr yn gofyn am lefel uchel o ymrwymiad a dibynadwyedd, bydd gwirfoddolwyr yn cael eu cefnogi’n rheolaidd gan Home-Start Cymru.
Dylai gwirfoddolwr Home-Start Cymru:
- bod yn rhiant neu fod â phrofiad magu plant
- gael agwedd gadarnhaol at weithio gyda phobl o unrhyw ryw, statws teuluol neu hunaniaeth rywiol, neu sydd o unrhyw darddiad ethnig, diwylliant neu grefydd, neu a all fod ag anabledd
- dangos agwedd sensitif a gofalgar tuag at eraill
- bod yn glir ynghylch cyfrinachedd
- bod yn ddibynadwy a deall pwysigrwydd dibynadwyedd i’r teulu
- meddu ar sgiliau cyfathrebu da gan gynnwys y gallu i wrando
- meddu ar bersonoliaeth gynnes ac agored a synnwyr digrifwch
- gallu gweithio fel aelod o dîm
- ymrwymo i ymweld neu ffonio aelod o’r teulu bob wythnos ar amser y cytunir arno
- bod yn barod i gadw cofnodion yn unol â chais y cynllun.